Isaiah 64

1O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr,
nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –
2byddai fel tân yn llosgi brigau sych,
neu'n gwneud i ddŵr ferwi –
i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti
ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
3Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol,
cwbl annisgwyl!
Roeddet ti'n dod i lawr
ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
4Does neb erioed wedi clywed
a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti,
sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.
5Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn,
ac sy'n cofio sut un wyt ti.
Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd,
gallen ni ddal gael ein hachub!
6Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan,
mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron.
Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen,
Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
7Does neb yn galw ar dy enw di,
nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti.
Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni,
a gwneud i ni wynebu'n methiant!
8Ac eto, Arglwydd, ti ydy'n Tad ni!
Gwaith dy ddwylo di ydyn ni –
ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd.
9Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, Arglwydd!
Paid dal dig am ein methiant am byth!
Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
10Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch!
Mae Seion yn anialwch,
a Jerwsalem yn adfeilion.
11Mae'r deml gysegredig a hardd
ble roedd ein hynafiaid yn dy foli di,
wedi cael ei llosgi'n ulw.
Mae ein trysorau'n beil o rwbel.
12Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal
er gwaetha hyn i gyd, Arglwydd?
Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel
tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?
Copyright information for CYM